Judges 12

Llwyth Effraim yn ymladd byddin Jefftha

1Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi dros yr Afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw'n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni'n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a tithau tu mewn iddo!”

2Meddai Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda'r Ammoniaid, dyma fi'n galw arnoch chi ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim. 3Pan wnes i sylweddoli nad oeddech chi'n dod dyma fi'n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma'r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth i ni. Does gynnoch chi ddim rheswm i ymladd yn fy erbyn i.”

4Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!”

5Dyma ddynion Gilead yn dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi'r afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,” 6bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw ac yn eu lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.

7Dyma Jefftha yn arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead.

Ibsan

8Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel. 9Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan briodi ei feibion.

Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd. 10Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Bethlehem.

Elon

11Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd. 12Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon.

Abdon

13Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel. 14Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun.
12:14 asyn ei hun Arwydd fod y teulu yn gyfoethog iawn.
Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd.
15Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw.

Copyright information for CYM